DLG 16

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Inquiry into diversity in local government

Ymateb gan: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Response from: Equality and Human Rights Commission

 

Ymateb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i’r Ymgynghoriad:

 

Manylion yr ymgynghoriad

Teitl:

Ymchwiliad i Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol

Ffynhonnell yr ymgynghoriad:

Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiad:

Medi 2018

 

Cyflwyniad  

Mae’r Comisiwn yn croesawu Ymchwiliad y Pwyllgor i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol yng Nghymru.  

Yn 2015, nododd ein hadroddiad ‘A yw Cymru’n Decach?’[1] fod menywod, pobl anabl, pobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl o leiafrifoedd crefyddol, a phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws yn parhau heb gynrychiolaeth ddigonol ar bob lefel gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2017, archwiliodd ein hadroddiad ‘Pwy sy’n rhedeg Cymru?’[2] yr amrywiaeth ar bob lefel gwleidyddiaeth yng Nghymru. Canfu’r adroddiad mai dim ond 26% o gynghorwyr, a 9% o arweinyddion cyngor, ledled Cymru, oedd yn fenywod.  

Canfu’r adroddiad gryn dipyn o wahaniaeth ar draws 22 awdurdod lleol Cymru. Sir Fôn oedd â’r gyfran isaf o gynghorwyr oedd yn fenywod, gyda dim ond 10%. Roedd gan Wrecsam, Ceredigion, Sir Benfro, Blaenau Gwent a Merthyr Tydfil oll lai na 20%. Fel yr oedd hi yn 2014, y tri chyngor gyda’r gyfran uchaf o gynghorwyr a oedd yn fenywod oedd Rhondda Cynon Taf ac Abertawe gyda 38% a Chaerdydd gyda 35%.

Yn ein hadroddiad, nid oeddem yn gallu darparu gwybodaeth ar bobl â nodweddion gwarchodedig eraill gan nad yw’r data hwn ar gael yn gyson ledled Cymru.

Yn sgil etholiadau’r Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2017 ni chafwyd braidd dim cynnydd, gyda’r cyfanswm y cant o gynghorwyr benywaidd yng Nghymru yn codi i ddim ond 28%.

Dangosodd Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol 2017[3] fod 33% o ymgeiswyr yn fenywod, 47% yn 60 oed neu’n hŷn, 1.8% o gefndir lleiafrifoedd ethnig, 66% yn Gristion, 7.1% yn lesbiaid, hoyw neu ddeurywiol a dim ond 12% o’r ymgeiswyr oedd yn anabl.

Ymchwil y Comisiwn sydd ar fin ei gynnal ar amrywiaeth ym maes gwleidyddiaeth

Yn ddiweddarach eleni, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad sydd yn archwilio’r data sydd ar gael ar amrywiaeth ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig o ran etholiadau ar lefel y Deyrnas Unedig, gwladol a lleol, gan nodi cyfyngiadau a bylchau. Pan oedd data’n bodoli, dadansoddodd chwe nodwedd warchodedig: oed, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Bydd yr adroddiad hwn yn gwneud ystod o argymhellion i wella’r broses casglu data amrywiaeth ym maes gwleidyddiaeth. Gwnawn rannu’r ymchwil hwn â chi yn ystod hynt eich Ymchwiliad. 

Mae’r Comisiwn yng Nghymru hefyd ar fin comisiynu ymchwil i ddatblygu’n bellach ein dirnadaeth o brofiadau menywod, pobl anabl, pobl draws a’r rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig o ran sefyll ar gyfer etholiad. Bydd yr ymchwil hwn yn archwilio rhwystrau a chynnig atebion yn nodi argymhellion wedi’u hanelu at gynyddu amrywiaeth gwleidyddion yng Nghymru. Bydd yr ymchwil hefyd yn archwilio rôl pleidiau gwleidyddol ac eraill o ran gweithredu fel ceidwaid pyrth i swyddi gwleidyddol. Yn arbennig, bydd yr ymchwil hwn yn archwilio cyfleoedd yn codi o ddatganoliad Deddf Cymru 2017 o allu deddfwriaethol dros drefniadau etholedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  


 

Llwybrau i wleidyddiaeth

Yn 2011, cyhoeddodd y Comisiwn ymchwil a archwiliodd y berthynas rhwng llwybrau cyffredin i wleidyddiaeth a dan gynrychiolaeth grwpiau a warchodir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Edrychodd yr astudiaeth ar Aelodau’r Tŷ Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Llywodraeth yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Llundain a’r Senedd Ewropeaidd. Ni chafodd cynrychiolwyr Llywodraeth Leol eu cynnwys yn uniongyrchol yn yr adroddiad, ond roedd llawer o’r rhai a gafodd eu cyfweld yn meddu ar brofiad o fod yn gynghorydd fel rhan o’u llwybr. Mae llawer o’r rhwystrau a nodwyd yn gyffredin ar draws sefydliadau gwleidyddol.  

Amlygodd yr adroddiad lawer o ffactorau sy’n atal pobl rhag cael mynediad i wleidyddiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys: 

·        Gall costau personol ac ariannol o fod mewn gwleidyddiaeth fod yn uchel ac yn rhwystr i’r rhai sy’n ceisio bod yn rhan ohono. Mae’n ofid arbennig i’r rheini mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, sydd wedi’u cynnwys yn anghymesur mewn grwpiau cymdeithasol incwm is.

 

·        Yn aml, canfyddir yr ymgeisydd delfrydol fel dyn, gwyn, canol oed o’r dosbarth canol ac yn weithiwr proffesiynol, yn aml yn adlewyrchu nodweddion y rhai sy’n dethol ymgeiswyr a chyn ymgeiswyr llwyddiannus. Mae’r rheolau anysgrifenedig, answyddogol a’r confensiynau sy’n llywodraethu gwleidyddiaeth, gan gynnwys ‘gwybod sut i chwarae’r gêm’, yn gweithio i wahardd y rheini nad ydynt yn bodloni’r model hwn o’r ymgeisydd clasurol.

 

·        Mae gan gliciau sefydledig a systemau noddi anffurfiol o fewn pleidiau’r effaith o atgyfnerthu’r dangynrychiolaeth sydd eisoes yn bodoli.

 

·        Soniodd unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o orfod wynebu cwestiynau amhriodol gan eu pleidiau gwleidyddol na fyddai, yn eu barn nhw, wedi cael eu gofyn i ymgeiswyr eraill. Er enghraifft, holwyd menywod am eu teulu a’u sefyllfa briodasol, a holwyd lleiafrifoedd ethnig am eu crefydd neu gred.

 

Atodwyd mwy o wybodaeth Llwybrau i Wleidyddiaeth yn Atodlen 1.

Unwaith y cyhoeddir ein hymchwil diweddaraf byddem yn croesawu’r cyfle i gyfarfod a thrafod yr argymhellion yng nghyd-destun eich ymchwiliad, petai hynny’n ddefnyddiol.

Am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’n gweithredu’n annibynnol i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon a diogelu a hybu hawliau dynol. Mae’n cyfrannu at wneud a chadw Prydain yn gymdeithas ddeg y mae gan bawb, waeth eu cefndir, gyfle cyfartal i gyflawni’u potensial. Mae’r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n annog  cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998 a chaiff ei achredu gan y Cenhedloedd Unedig fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol ‘statws A’. canfyddwch ragor am waith y Comisiwn yn: www.equalityhumanrights.com.

 

 


 

Atodiad 1 – Darnau o Lwybrau i Wleidyddiaeth:

 

Ffactorau atal wedi’u nodi yn ôl nodwedd warchodedig:

 

·        Roedd menywod o’r farn bod canfyddiad yn parhau fod diffyg dwyster ac awdurdod priodol ganddynt ym maes gwleidyddiaeth. Roeddent yn canfod eu hunain o orfod wynebu trafferth ddwbl o naill cael eu canfod heb fod yn ddigon pendant neu’n orymwthgar. Roedd eu hosgo personol yn fwy o broblem nad oedd i ddynion tra roedd eu cyfrifoldebau gofal a domestig yn cyfyngu’u cyfleoedd a chaent eu craffu gan bleidiau gwleidyddol. Canfu menywod ym maes gwleidyddiaeth genedlaethol hi’n anodd sefydlu cydbwysedd gwaith a bywyd.

 

·        Mae diffyg dirnadaeth eang yn parhau am anabledd a’r anawsterau a wyneba pobl anabl wrth geisio cael eu dewis a’u hethol. Cafodd diffyg ymwybyddiaeth a dirnadaeth am anabledd ar lefel plaid leol ei nodi hefyd, gan gynnwys gan baneli dethol. Mae’r rhwystrau’n cynnwys agweddau negyddol at anabledd a rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan lawn ym mywyd gwleidyddiaeth ac sydd yn eu hannog i beidio ag ymwneud ag ef. Roedd atebwyr o’r farn bod y cyhoedd a’r cyfryngau yn amhriodol yn canfod anabledd fel anallu.

 

 

·        Roedd ymgeiswyr lleiafrifoedd ethnig o’r farn eu bod yn cael eu canfod gan ddetholwyr plaid fel bod yn fwy derbyniol mewn ardaloedd lle'r oedd poblogaeth lleiafrifoedd ethnig gymharol uchel.

 

·        Awgrymodd rhai gwleidyddion mai dim ond ychydig o  rhwystrau oedd i gyfranogiad gwleidyddol gan lesbiaid a phobl hoyw a deurywiol (LGB). Fodd bynnag, roedd tystiolaeth bod pobl LGB yn ceisio am swydd etholedig yn dal yn wynebu homoffobia nid yn unig gan y cyfryngau ond hefyd gan eu pleidiau eu hunain a phleidiau eraill. Yn aml, nid yw gwleidyddion LGB yn cael eu canfod fel rhan o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, heblaw iddynt ddatgelu eu cyfeiriadedd rhywiol.

 

·        Nid oes ar hyn o bryd unrhyw wleidydd sy’n agored draws ym maes gwleidyddiaeth leol neu wladol. Mae’r rhwystrau i bobl draws rhag cael cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn cynnwys gelynyddiaeth heb flewyn ar dafod a diffyg dirnadaeth am eu bywydau. Er bod gwleidyddiaeth draws wedi’i datblygu, mae’r gymuned yn fach a heb y gallu i gefnogi ymgeiswyr traws.

 

·        Gall oed, anabledd, ethnigrwydd, rhywedd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd a chefndir cymdeithasol groesi ar draws ei gilydd a chreu hunaniaethau aml-ddimensiwn. Gall y rhyngdoriad hwn gyflwyno rhwystrau mwy o faint i gyfranogiad pobl ym maes gwleidyddiaeth genedlaethol, er enghraifft, i famau ifancach, menywod lleiafrifoedd ethnig a lesbiaid.

 

Rôl pleidiau gwleidyddol

 

·        Er gwahaniaethau ideolegol a hanesyddol rhwng pleidiau gwleidyddol wrth fynd i’r afael â dangynrychiolaeth, roedd tystiolaeth o ‘ddatgysylltu’ o ran cyfradd cynnydd ac arweinyddiaeth a ddangoswyd ar y lefel cenedlaethol a newid mewn deilliannau ac agweddau ar lefel lleol.

 

·        Mae recriwtio aelodaeth plaid fwy amrywiol yn gam allweddol i annog ymgeiswyr fwy amrywiol. 

 

·        Roedd mentora, rhwydweithiau cyfoedion anffurfiol a gweithgareddau grwpiau â buddion a grwpiau lobïo sefydledig yn ffyrdd cadarnhaol y gallai pleidiau drwyddynt, ac weithiau gwnaethant hynny, eu defnyddio i recriwtio, ethol a chadw aelodau heb gynrychiolaeth ddigonol.

 

 

 

Y ffordd ymlaen

 

Awgryma canfyddiadau’r adroddiad ganolbwyntio ar dri maes i hybu amrywiaeth ym maes cynrychiolaeth:

·        Ail lunio’r drafodaeth i gynnwys canlyniadau etholedig cadarnhaol o fod ag ymgeiswyr mwy amrywiol;

·        Agor llwybrau a’r broses recriwtio wleidyddol; a

·        Dechrau trafodaeth ar amrywiaeth a diwygio’r broses ethol, gan ymateb i gyfleoedd ar gyfer newid.

Dywed yr adroddiad:

‘Byddai llunio trafodaethau’n effeithiol am amrywiaeth yn cydnabod bod cael ymgeiswyr mwy amrywiol a chefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn esgor o bosib ar ganlyniadau etholedig mewn etholaethau unigol, ac ar y lefelau gyda’i gilydd. Byddai angen i broses ail lunio gynnwys trafodaeth a data empirig gwell fel y gall pleidiau gwleidyddol gymryd camau effeithiol i wella eu hapêl etholedig i etholaeth amrywiol.

‘I ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sydd yn cynnig eu hunain, mae’r rhwystrau rhag llwyddo yn niferus iawn, y llwybrau sydd ar gael yn gul, a’r cymorth a gânt gan sefydliadau yn gyfyng. Mae eisiau newid sylweddol i fynd i’r afael ag ef.

‘Bydd ffactorau gwthio, tynnu ac atal yn gweithredu i atgyfnerthu eu hunain. Mae angen diwygio ar sawl lefel i ehangu cyfleoedd i gymryd rhan ym maes gwleidyddiaeth, ehangu llwybrau sydd eisoes yn bodoli ac o bosib creu llwybrau newydd.

‘Gellir dadlau bod angen camau cadarnhaol radicalaidd a chyson a newid systematig yn ogystal ag addysg a hyfforddiant i ddylanwadu ar agweddau i wella deilliannau a mynd i’r afael â dangynrychiolaeth.’[4]

 

 



[1] https://www.equalityhumanrights.com/en/publication-download/wales-fairer-2015

[2] https://www.equalityhumanrights.com/en/publication-download/who-runs-wales-2017

[3] https://gov.wales/statistics-and-research/local-government-candidates-survey/?lang=en

[4] https://www.equalityhumanrights.chttp://www.equalityhumanrights.com/en/user
om/sites/default/files/research-report-65-pathways-to-politics.pdf